Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Adran yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol ac fe'i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1 

 

Datganiad Ysgrifennydd y Cabinet/y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018.  

 

Rwy'n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau'r costau tebygol.

 

HANNAH BLYTHYN

GWEINIDOG YR AMGYLCHEDD

18 Mai 2018

 

 


1. Disgrifiad

 

Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018 (Rheoliadau 2018) yn gwahardd gweithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig. Bydd hyn yn lleihau'r plastig sy'n cael ei ryddhau i'r môr ac yn lleihau'r niwed y mae'r math hwn o ficroplastigion yn ei achosi i organebau morol.

2. Materion sydd o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Nid oes dim.

3. Cefndir deddfwriaethol

 

Gwneir Rheoliadau 2018 o dan Adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae Adran 140(1) (b) ac (c) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn datgan y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wahardd cyflenwi a defnyddio sylwedd penodedig er mwyn ei atal rhag llygru'r amgylchedd a niweidio iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion. 

 

O dan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau sy’n arferadwy o dan adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Mae sancsiynau sifil ar gael i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 140 (9) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac adran 62(1) a pharagraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008. 

 

Mae'r pŵer yn ddarostyngedig i'r gofynion i ymgynghori o dan adrannau 59(3) a 60(1) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008. Yn ogystal, mae'r pŵer yn ddarostyngedig i ofynion adran 42 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008 ac adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 16(2) o Atodlen 3(2) i Reoliadau Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a  Chosbi Troseddwyr 2012 (Dirwyon yn dilyn Euogfarn Ddiannod) 2015/664.

 

Yn unol ag Adran 59(3) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â'r Ysgrifennydd Gwladol ym Mawrth 2018, cyn gwneud Gorchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008. 

 

Yn unol â'r gofynion ynghylch ymgynghori yn adran 60(1)(a) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru ag Awdurdodau Lleol Cymru ym Mawrth 2018 yn rhinwedd eu rôl fel rheoleiddiwr.

 

Yn unol ag adran 140(6)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, gosodwyd hysbysiadau yn y London Gazette a'r Western Mail yn Ebrill 2018 i roi gwybod i'r cyhoedd am Reoliadau arfaethedig 2018 ac i wahodd y cyhoedd i roi sylwadau i Weinidogion Cymru.

 

Mae'r offeryn yn weithdrefn gadarnhaol ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad.

 

4. Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Diben y ddeddfwriaeth hon yw gwahardd gweithgynhyrchu a chyflenwi cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig y mae tystiolaeth i ddangos y gallant lygru a niweidio'r amgylchedd morol.

 

Ystyr microbelen yw gronyn plastig solet sy'n annhoddadwy mewn dŵr sy'n 5mm neu lai o faint mewn unrhyw fesuriad. Ychwanegir y rhain yn fwriadol at amrywiaeth o gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd ac maent wedi cael eu defnyddio am flynyddoedd lawer.

 

Bydd y gwaharddiad yn cynnwys yr holl gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig, fel y'u diffinnir yn y Rheoliadau. Mae cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd yn cynnwys y canlynol, ond heb eu cyfyngu i hynny: cynhyrchion a gynlluniwyd i'w defnyddio ar y corff, y croen, y dwylo, y traed, yr ewinedd, yr wyneb, y gwallt a cheudod y geg, gan gynnwys cynhyrchion sgrwbio, glanhau, goleuo neu liwio, llyfnhau'r croen neu'r gwallt, tynnu blew, diarogli neu bersawru, yn ogystal â chynhyrchion â nodweddion gofal personol i'r bath, a chynhyrchion deintyddol.

 

Bwriedir bod y gwaharddiad yn gwneud y canlynol:

1.    Atal niwed pellach i anifeiliaid y môr a lleihau twf y llwyth sbwriel môr cyffredinol.

2.    Amddiffyn yr amgylchedd morol a lleihau risg a difrifoldeb effeithiau diwrthdro posibl ar ddiogelwch bwyd ac iechyd dynol.

3.    Parhau i annog ymdrechion gwirfoddol presennol y diwydiant a'r ymdrechion a gynllunnir ganddo i gael gwared ar ficrobelenni.

4.    Meithrin hyder defnyddwyr na fydd cynhyrchion yn llygru'r môr.

5.    Gosod esiampl i wledydd eraill ac annog mwy ohonynt i fabwysiadu deddfwriaeth. 

 

Nid oes gweithgynhyrchwyr gennym yng Nghymru sy'n defnyddio microbelenni yn eu cynhyrchion. Trwy weithredu'r gwaharddiad ar weithgynhyrchu a gwerthu, byddwn yn cynorthwyo busnesau i addasu i'r newidiadau gan olygu y bydd y baich ychwanegol ar y diwydiant mor fach â phosibl. 

 

 

 

Cyd-destun

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lunio polisïau mewn modd integredig sy'n darparu fframwaith ar gyfer arfordir a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Bydd hyn yn gymorth i ni gyflawni ein huchelgais o wella iechyd a lles pobl Cymru fel y disgrifiwyd yn y ddogfen 'Ffyniant i Bawb', a sicrhau defnydd mwy cynaliadwy o'n moroedd ar yr un pryd.

 

Mae sbwriel yn broblem fawr iawn yn ein moroedd a'n cefnforoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol i leihau swmp y plastig sy'n cyrraedd ein cefnforoedd.

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud llawer i leihau gwastraff plastig a'i ailgylchu trwy'i strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Mae Cymru'n arwain yn y DU o ran ailgylchu ac yn ôl astudiaeth annibynnol, mae’r wlad yn yr ail safle yn Ewrop ac yn y trydydd safle ar lefel fyd-eang. Rydym yn ailgylchu 75% o'r poteli plastig a gesglir o gartrefi, o gymharu â'r DU gyfan sy'n ailgylchu 57%. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu astudiaeth i ystyried ffyrdd pellach o ailgylchu mwy a lleihau’r sbwriel a deflir sy'n cynnwys pecynnau bwyd a diod allweddol.

 

Yn ddiweddar, ffurfiodd Llywodraeth Cymru Bartneriaeth Moroedd Glân lle y mae rhanddeiliaid yn gweithio i ddatblygu a chyflawni cynllun gweithredu Cymru ynghylch sbwriel môr. Mae egwyddorion y bartneriaeth yn cynnwys y canlynol:

1.    Cydweithio â phartneriaid yn y DU ac ar draws y byd i greu sylfaen gref o dystiolaeth ynghylch gweithredu effeithiol,

2.    Hoelio'r sylw ar gamau ataliol a fydd yn mynd at wraidd y broblem,

3.    Cynnwys cymunedau daearyddol, cymunedau o ddiddordeb a defnyddwyr yr amgylchedd morol yn y gwaith o ddatblygu datrysiadau a'u rhoi ar waith,

4.    Gweithredu mewn dull integredig er mwyn cyflawni'r canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf,

5.    Monitro effaith ymyriadau penodedig o ran cyflawni gwelliannau hirdymor.

Mae'r camau cadarnhaol a gymerir i leihau'r microbelenni niweidiol sy'n cael eu gollwng i'r môr yn cefnogi nodau Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol[1]. Y Gyfarwyddeb hon sy'n pennu'r fframwaith (a gyflawnir trwy Strategaeth Forol y DU) ar gyfer rheoli ein moroedd mewn dull cynaliadwy ac mae'n cyfrannu at wireddu ein nod o sicrhau Statws Amgylcheddol Da i’n moroedd. Bydd y gwaharddiad hwn yn gyfraniad cadarnhaol o ran diogelu'r amgylchedd morol.

 

Roedd Rhan Un o Strategaeth Forol y Du[2] yn nodi rhai o'r problemau sy'n deillio o sbwriel môr ym mhob rhan o foroedd y DU lle y gwneir arolygon systematig o ddwysedd sbwriel ar draethau. Ar ben hynny, mae tystiolaeth gynyddol y gall y sbwriel sy'n cronni yn ein dyfroedd niweidio ecosystemau morol ac effeithio ar gymunedau arfordirol. Gall anifeiliaid y môr lyncu eitemau llai, fel gronynnau microblastig, gan niweidio eu hiechyd.

Mae Rhan Tri o Strategaeth Forol y DU[3] yn disgrifio casgliad cynhwysfawr o gamau a chynlluniau i fynd i'r afael â sbwriel môr. Mae'r camau hyn yn cynnwys Cynllun Gweithredu Rhanbarthol OSPAR ar sbwriel môr[4]. Ers 2014, bu'r DU yn gweithio gyda gwledydd cyfagos ac yn ymgysylltu â'r diwydiant cynhyrchion cosmetig i hyrwyddo cynllun gwirfoddol i raddol ddileu'r defnydd o ficroplastigion mewn cynhyrchion cosmetig a gofal personol. 

 

O ganlyniad i'r gwaith hwn, argymhellodd Cosmetics Europe, sef Cymdeithas Fasnach y diwydiant cynhyrchion cosmetig yn Ewrop, gynllun gwirfoddol yn Hydref 2015 i raddol ddileu'r defnydd o ficrobelenni a ychwanegir at ddibenion glanhau a sgrwbio. Gwnaeth llawer o gwmnïau cynhyrchion cosmetig bach a mawr ymrwymiad cyhoeddus i wneud hynny.

 

Ym mis Awst 2016, cyhoeddwyd adroddiad ymchwiliad Pwyllgor Archwilio'r Amgylchedd Llywodraeth y DU i effaith microplastigion ar yr amgylchedd. Roedd hwn yn cynnwys argymell cyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio microbelenni mewn cynhyrchion cosmetig a gofal personol.

 

Tystiolaeth

 

Yn 2016, cyhoeddwyd canlyniadau astudiaeth bum mlynedd o effaith microplastigion ar yr amgylchedd morol[5]. Dangosai'r astudiaeth, a gynhaliwyd gan Brifysgol Plymouth, fod microplastigion sy'n cael eu llyncu gan organebau morol yn gallu achosi niwed yn uniongyrchol neu drwy gludo halogion cemegol eraill i systemau organebau morol. Roedd y canfyddiadau hyn yn ategu'r corff cynyddol o dystiolaeth ynghylch y niwed y mae llyncu microplastigion yn ei achosi i organebau morol.

 

Mae microbelenni yn ffynhonnell llygredd môr y gellir ei hosgoi. Yn y DU, amcangyfrifir bod hyd at 680 tunnell o ficrobelenni plastig yn cael eu defnyddio mewn cynhyrchion gofal personol bob blwyddyn a bod biliynau o'r microbelenni hyn yn cael eu golchi i'n systemau draenio ac yn mynd i'n moroedd. Mae microbelenni'n cronni yn y môr am nad ydynt yn bioddiraddio ac oherwydd y gred eu bod yn amhosibl i’w hadennill unwaith y byddant wedi eu rhyddhau. 

 

Mae dewisiadau addas ac economaidd ymarferol yn lle microbelenni plastig yn y diwydiant cynhyrchion cosmetig, gan gynnwys silica, halen a chnewyll hadau mâl. Mae tystiolaeth wyddonol yn awgrymu nad yw'r dewisiadau amgen hyn yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd [6].

 

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch pam y dylai microbelenni mewn cynhyrchion cosmetig, sy'n ffynhonnell llygredd môr y gellir ei hosgoi, gael eu lleihau hyd at yr eithaf yn Rhan Dau o'r Memorandwm Esboniadol hwn – sef yr Asesiad o’r Effaith Rheoleiddiol.

 

Budd y cyhoedd

 

O ganlyniad i ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth helaethach o ficrobelenni a'r niwed y maent yn ei achosi i'r amgylchedd morol, mae gan y cyhoedd ddiddordeb sylweddol mewn lleihau sbwriel môr a'r llygredd y mae microplastigion a microbelenni yn ei achosi yn y cefnforoedd, a chyflwynir deisebau cyhoeddus ynghylch sbwriel môr, er enghraifft, y ddeiseb a lansiwyd gan Greenpeace yn Ionawr 2016, yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd defnyddio microbelenni mewn cynhyrchion cosmetig. Roedd mwy na 385,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb hon.

 

Bu'r gweithredu gwirfoddol gan y diwydiant, ynghyd â phwysau cynyddol gan ddefnyddwyr, yn llwyddiannus i'r graddau bod mwy na 70% o gynhyrchwyr eisoes wedi cael gwared ar ficrobelenni o'u cynnyrch. Fodd bynnag, bydd cyflwyno gwaharddiad deddfwriaethol yn sicrhau cysondeb o ran deall ystyr "microbelen" ac yn sicrhau, o ganlyniad, na fydd microbelenni yn yr holl gynhyrchion perthnasol.

 

Cefnogaeth ryngwladol

 

Penderfynodd Gweinidogion Cymru a'u Gweinidogion cyfatebol ledled y DU lunio deddfwriaeth i gyflwyno gwaharddiad cenedlaethol ar weithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni, a pharhau i ymgysylltu â gwledydd eraill i gefnogi datblygu gwaharddiadau tebyg ar y llwyfan rhyngwladol.

 

Ar lefel fyd-eang, mae cefnogaeth helaeth i wahardd microbelenni plastig ac mae llawer o wledydd, fel Canada, Unol Daleithiau America, Awstralia, Taiwan, De Corea, Seland Newydd, yr Eidal ac India, wedi rhoi deddfwriaeth ar waith yn barod neu wrthi'n gweithredu gwaharddiad. Mae Gweinidogion y Llywodraeth yn Awstria, Gwlad Belg, Sweden, Lwcsembwrg a'r Iseldiroedd hefyd wedi galw am wahardd defnyddio microbelenni ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Cynhaliodd Comisiwn yr UE ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch dewisiadau polisi i leihau'r microplastigion sy'n mynd i'r môr a gwelwyd bod y cyhoedd o blaid gwahardd defnyddio microbelenni mewn cynhyrchion cosmetig[7]. Mae Ffrainc a Sweden ill dwy wedi cyflwyno gwaharddiad ar gynhyrchion cosmetig i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microplastigion yn 2018. Nododd Gwlad Belg fod ganddi gynllun drafft gwirfoddol i raddol ddileu'r defnydd o ficroplastigion yn yr holl gynhyrchion i ddefnyddwyr erbyn 2019.

 

Bu Llywodraeth Cymru'n cydweithio â holl weinyddiaethau'r DU i fabwysiadu dull gweithredu cyffredin yng nghyswllt y gwaharddiad hwn, trwy gyd-ddatblygu cynigion ymgynghori ar lefel y DU a defnyddio dull gweithredu cyson, lle'r oedd hynny'n briodol i Gymru, yn Rheoliadau Cymru 2018.

 

Ystyried yr effaith ar fusnes a masnach

 

Amcangyfrifir bod rhyw 300 o weithgynhyrchwyr cynhyrchion cosmetig yn y DU. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Cynhyrchion Cosmetig, Cynhyrchion Ymolchi a Phersawr y DU wedi dweud nad yw busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru yn defnyddio microbelenni plastig yn eu cynhyrchion. Mae'r mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn fach ac yn tueddu i ddelio mewn cynnyrch organig ac o waith crefftwyr.

 

Felly, ni ddisgwylir y bydd Rheoliadau 2018 yn effeithio ar weithgynhyrchwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen y gwaharddiad ar weithgynhyrchu er mwyn sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb yn y diwydiant.

 

Mae'r diwydiant cynhyrchion cosmetig ehangach yn y DU eisoes wedi cymryd camau gwirfoddol i gael gwared ar ficrobelenni plastig o gynhyrchion cosmetig a gofal personol ac ni ddefnyddir microbelenni bellach ym mhrosesau gweithgynhyrchu mwy na 72% o'r gweithgynhyrchwyr yn y DU. Yn ogystal, fel y nodwyd uchod, mae nifer o wledydd eraill yn mabwysiadu gwaharddiadau tebyg ac mae cefnogaeth helaeth ymhlith y cyhoedd i raddol ddileu'r defnydd o ficrobelenni plastig mewn cynhyrchion cosmetig a gofal personol.

 

O ran eu tarddiad, mae 78% o'r cynhyrchion harddwch a fewnforir yn dod o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd neu o Ogledd America. Mae'r Unol Daleithiau ar hyn o bryd yn cyflwyno gwaharddiad ar ficrobelenni[8], ac mae rhai gwledydd yn Ewrop yn ymchwilio i'r posibilrwydd o wahardd microbelenni. Ar ben hynny, mae datganiadau gan y diwydiant[9] ynghylch graddol ddileu microbelenni yn cyfeirio'n gyffredinol at eu dileu ar lefel fyd-eang. Mae hyn yn awgrymu bod y gwaharddiad yn debygol o effeithio ar ganran fach iawn o fewnforion.

 

Gyda'r camau sydd ar waith eisoes gan y diwydiant a'r ffaith nad oes gweithgynhyrchwyr yng Nghymru, byddai'r effaith ar fusnesau ac adwerthwyr yng Nghymru yn fach iawn iawn gan y bydd y stoc nad yw'n cydymffurfio yn lleihau yn naturiol wrth i'r cyflenwad ddod i ben. Mae manylion llawn yr effaith ar fusnes a masnach wedi'u cynnwys yn yr Asesiad o’r Effaith.

 

Amseriad y gwaharddiad a'r ddeddfwriaeth sy'n dod i rym

 

Gwnaed y cyhoeddiad cyntaf ynghylch y gwaharddiad arfaethedig yn y DU ym Medi 2016 a lansiwyd yr ymgynghoriad ledled y DU yn Rhagfyr 2016. Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad pellach yn Hydref 2017 gan ddweud y byddai'r gwaharddiad ar weithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig yn dod i rym ar 30 Mehefin 2018 os mai hynny oedd y penderfyniad yn y pen draw ar ôl ystyried yr holl ymatebion ymgynghori.

 

Roedd dogfennau'r ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2017 yn annog busnesau i baratoi ac i addasu eu gweithrediadau busnes yn barod ar gyfer y gwaharddiad arfaethedig, os mai hynny oedd y penderfyniad ar ôl ystyried yr holl ymatebion ymgynghori. Ar ben hynny, ar adeg cyflwyno'r gwaharddiad yng Nghymru, bydd busnesau sy'n gwerthu cynhyrchion yng Nghymru wedi cael mwy na blwyddyn i baratoi ar ei gyfer. Yn ychwanegol, mae'r diwydiant cynhyrchion cosmetig eisoes wedi cymryd camau gwirfoddol helaeth i raddol ddileu'r defnydd o ficrobelenni yn y DU, fodd bynnag, deallwn y gall fod cyfanwerthwyr ac adwerthwyr sy'n cyflenwi ac yn cadw cynhyrchion o'r math hwn. 

 

Yn ychwanegol, rhoddwyd sylw sylweddol i'r gwaharddiad ar ficrobelenni yn y cyfryngau ac mae Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydd adwerthwyr yn ymwybodol bod y gwaharddiad yn dod i rym ac y bydd yr effaith ar fusnesau yn cael ei lleihau hyd at yr eithaf.

 

Cyn gynted ag y daw'r gwaharddiad i rym, cynorthwyir busnesau â chanllawiau a fydd yn canolbwyntio ar alluogi busnesau i gydymffurfio â'r gyfraith ac atal niwed i'r amgylchedd morol. Bydd y canllawiau hyn yn gymorth i weithgynhyrchwyr, cyflenwyr, adwerthwyr a'r cyhoedd ddeall y gwaharddiad a'r cynhyrchion a gwmpesir ganddo, a'r gyfundrefn orfodi a sancsiynau sifil.

 

Gorfodaeth

 

Gorfodir Rheoliadau 2018 gan Awdurdodau Lleol Cymru yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd.

 

Prif nodau'r cynigion gorfodaeth yw galluogi pobl i gydymffurfio ac atal niwed i'r amgylchedd morol.

 

Cyn gynted ag y bydd y gwaharddiad mewn grym, bydd y sawl sy'n gweithgynhyrchu, yn gwerthu neu'n cynnig cyflenwi cynhyrchion cosmetig neu ofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig yng Nghymru yn cyflawni trosedd. Bydd rhai troseddau cysylltiedig hefyd, er enghraifft, bydd peidio â chydymffurfio â hysbysiad stop neu beidio â darparu gwybodaeth benodol ymhen cyfnod rhesymol ar ôl derbyn cais ysgrifenedig i wneud hynny yn drosedd.

 

Mae Rheoliadau 2018 yn cyflwyno cyfundrefn orfodaeth sy'n cynnwys sancsiynau sifil ac yn darparu cymysgedd o hysbysiadau gorfodi a chosbau ariannol. Bydd sancsiynau sifil yn caniatáu i'r rheoleiddiwr wahaniaethu rhwng y rhai sy'n ceisio cydymffurfio a'r rhai sy'n anwybyddu'r gyfraith. Bydd yr hyblygrwydd hwn yn fodd i'r rheoleiddiwr osod amrywiaeth o sancsiynau yn dibynnu ar amgylchiadau'r drosedd. 

 

Mae Rheoliadau 2018 yn darparu'r arfau gorfodi canlynol i'w defnyddio gan reoleiddwyr o ganlyniad i beidio â chydymffurfio:

 

Ymgymeriadau gorfodaeth: Mae'r rhain yn galluogi unigolyn, y mae gan reoleiddiwr sail resymol i gredu ei fod wedi cyflawni trosedd, i roi ymgymeriad (addewid) i'r rheoleiddiwr y bydd yn cymryd un neu ragor o'r camau cywirol a ddisgrifiwyd yn yr ymgymeriad.

 

Ymgymeriadau trydydd parti: Mae'r rhain yn fodd i unigolyn a dderbyniodd hysbysiad o fwriad rheoleiddiwr i roi cosb ariannol amrywiadwy iddo ymrwymo, er enghraifft, i gymryd camau er budd trydydd parti yr effeithiwyd arno/arnynt trwy beidio â chydymffurfio.

 

Cosb ariannol amrywiadwy: Gofyniad i dalu cosb ariannol y pennwyd ei swm gan y rheoleiddiwr i adlewyrchu amgylchiadau'r drosedd.

 

Hysbysiad cydymffurfio: Gofyniad i gymryd camau penodedig cyn pen y cyfnod a bennwyd er mwyn sicrhau na fydd trosedd yn parhau nac yn digwydd eto.

 

Hysbysiad o fwriad: Hysbysiad o'r camau y cynigir eu cymryd; caiff ei roi cyn gosod cosb ariannol amrywiadwy neu cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio.

 

Hysbysiad terfynol:  Hysbysiad terfynol o'r camau y cynigir eu cymryd.

 

Hysbysiad stop: Gofyniad bod unigolyn yn rhoi'r gorau i wneud y gweithgaredd a ddisgrifir yn yr hysbysiad hyd nes y bydd wedi cymryd camau i'w (g-)alluogi i gydymffurfio unwaith eto.

 

Cosb am beidio â chydymffurfio: Bydd peidio â chydymffurfio ag ymgymeriad neu hysbysiad cydymffurfio yn arwain at gosb am beidio â chydymffurfio.

 

Hysbysiad adennill costau gorfodaeth: Hysbysiad sy'n rhoi manylion yr ad-daliad y bydd y rheoleiddiwr yn gofyn amdano am waith ymchwilio a gweinyddu.

 

Cosbau Ariannol Amrywiadwy

 

Lle y cyflawnwyd trosedd, bydd swyddogion gorfodaeth yn gallu gosod cosb ariannol amrywiadwy. Y canlynol yw'r paramedrau y bydd y rheoleiddiwr yn eu hystyried wrth bennu cosb gymesur:

 

·         maint y busnes;

·         graddau'r drosedd;

·         yr effaith ar yr amgylchedd;

·         faint o fudd ariannol a gafwyd yn sgil y drosedd; a

·         materion perthnasol eraill.

 

Ystyrir y cosbau ariannol amrywiadwy fesul achos unigol ond cyhoeddir cyfarwyddyd a fydd yn ganllawiau i'r rheoleiddiwr wrth iddo bennu lefel y gosb a osodir, hyd at y swm cosb uchaf. 

 

-       Cosb am beidio â chydymffurfio - dim mwy na 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £5,000, pa un bynnag yw'r lleiaf.

 

-       Peidio â darparu gwybodaeth neu ddogfennau at ddiben penderfynu a gyflawnwyd neu a gyflawnir troseddau penodol, neu a gydymffurfiwyd neu a gydymffurfir â gofynion hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad stop neu ymgymeriad gorfodaeth; – y gosb fwyaf fydd 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £20,000, pa un bynnag yw'r lleiaf.

Oni fydd busnesau'n cydymffurfio â hysbysiad stop neu hysbysiad cydymffurfio (lle na roddir cosb ariannol amrywiadwy i unigolyn hefyd) bydd gan y rheoleiddiwr y pŵer i ddwyn achos troseddol yn eu herbyn.

 

Y gosb i'r sawl a geir yn euog o beidio â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio fydd dirwy a bennir gan y Llys Ynadon.  

 

Y gosb i'r sawl sy'n peidio â chydymffurfio â hysbysiad stop fydd hyd at ddeuddeng mis o garchar neu ddirwy a bennir gan y Llys Ynadon. 

 

Dim ond yn niffyg unrhyw beth arall y rhoddir hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau stop, sef pan fydd pob dull arall wedi methu neu pan fernir bod y gwaharddiad wedi'i dorri’n fwriadol neu ar raddfa helaeth.

 

Roedd yr Asesiad o’r Effaith ar Gyfiawnder a gynhaliwyd yn dangos y byddai'r effaith ar y system gyfiawnder yn fach iawn iawn.

 

Bydd pob apêl yn ymwneud â sancsiynau sifil yn apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

 

Asesiadau eraill o’r effaith

 

Cynhaliwyd yr asesiadau canlynol o’r effaith hefyd, gan dangos y byddai'r effaith ar y system gyfiawnder yn fach iawn neu’n ddim: Hawliau Plant, Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Preifatrwydd, Cystadleuaeth, Prawfesur Gwledig a’r Gymraeg.

 

Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd

 

Fel y nodwyd uchod, diben drafftio Rheoliadau 2018 yw lleihau twf sbwriel môr a diogelu'r amgylchedd morol. Disgrifiwyd uchod effaith ddifrifol microbelenni ar yr amgylchedd, a'r amgylchedd morol yn benodol. Mae hyn yn cynnwys canlyniad astudiaeth bum mlynedd yn 2016 a nododd y niwed y mae llyncu microplastigion yn ei wneud i organebau morol, ac a gydnabu eu bod yn ffynhonnell llygredd môr y gellir ei hosgoi. Bernir felly fod y rhesymau amgylcheddol y dibynnwyd arnynt wrth lunio Rheoliadau 2018 yn ddigonol ac yn ddilys i gyfiawnhau gwahardd defnyddio microbelenni fel cynhwysyn wrth weithgynhyrchu cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd, a gwahardd gwerthu'r cynhyrchion hynny.

Wrth ddatblygu Rheoliadau 2018, gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Gweinyddiaethau eraill y DU i ystyried sut y gellid taclo effaith microplastigion ar yr amgylchedd morol, ac ymgysylltodd â sefydliadau academaidd a'r diwydiant cynhyrchion cosmetig i geisio nodi'r camau y gellid eu mabwysiadu er mwyn rhoi sylw i'r mater hwn. O ganlyniad i'r ymgysylltu hwn, ystyriwyd mai gwahardd gweithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni oedd y dull mwyaf cymesur a rhesymol o gyflawni'r nod o leihau sbwriel môr ym mhob rhan o foroedd y DU, ac yn ardal forol Cymru yn arbennig. Barnwyd na fyddai camau llai yn cyflawni'r nodau a geisiwyd, a bod y polisi a fabwysiadwyd hefyd yn adlewyrchu'r dull gweithredu a ddilynid mewn nifer o wledydd ledled y byd, fel y nodwyd uchod.

Mae'r polisi wedi ennyn cefnogaeth y cyhoedd, a gwelir tystiolaeth o hynny yn yr adborth ymgynghori ar lefel Cymru a'r DU. Cynhaliwyd proses ymgynghori eang ac amserol i gasglu barn y cyhoedd, a'r rhai yr oedd y gwaharddiad yn debygol o effeithio arnynt, yng Nghymru ac yn y DU, fel y disgrifir isod. Yn arbennig, roedd dogfennau'r ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2017 yn annog busnesau i baratoi ac i addasu eu gweithrediadau busnes yn barod ar gyfer y gwaharddiad arfaethedig (os mai hynny oedd y penderfyniad yn y pen draw ar ôl ystyried yr holl ymatebion ymgynghori). 

Yn ogystal, ac fel y nodwyd uchod, derbyniodd y gwaharddiad gefnogaeth y diwydiant cynhyrchion cosmetig. Yn Hydref 2015, cefnogodd Cosmetics Europe, sef Cymdeithas Fasnach y diwydiant cynhyrchion cosmetig yn Ewrop, gynllun gwirfoddol i raddol ddileu'r arfer o ddefnyddio microbelenni at ddibenion glanhau a sgrwbio. Yn ychwanegol, mae llawer o gwmnïau cynhyrchion cosmetig bach a mawr wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i raddol ddileu'r defnydd o ficrobelenni yn yr un modd. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn felly fod y cynllun gwirfoddol i roi'r gorau yn raddol i weithgynhyrchu'r cynhyrchion hyn, ynghyd ag ymwybyddiaeth sylweddol o'r gwaharddiad ymysg y cyhoedd yn golygu bod busnesau y gallai'r cynigion hyn yng Nghymru effeithio arnynt wedi cael digon o amser i addasu i'r newidiadau yn y gyfraith. 

Cred Llywodraeth Cymru felly fod y mesurau a fabwysiadwyd yn Rheoliadau 2018 yn gymesur a bod y budd o gyflawni'r nodau o ran lleihau twf sbwriel môr, diogelu'r amgylchedd morol a gweithio tuag at sicrhau Statws Amgylcheddol Da i'n moroedd trwy wahardd gweithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion gofal personol sy'n cynnwys microbelenni, yn gorbwyso pob effaith negyddol posibl a all godi o ganlyniad i'r cyfyngiadau a orfodir gan Reoliadau 2018.

Casgliad

Cynllunnir yr ymyriad i ddiogelu'r amgylchedd morol rhag llygru pellach, i roi hyder i ddefnyddwyr na fydd y cynhyrchion y byddant yn eu prynu yn niweidio'r amgylchedd, ac i gynorthwyo'r diwydiant cynhyrchion cosmetig trwy sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb, gan sicrhau amserlen addas ar gyfer gweithredu a lleihau hyd yr eithaf yr effaith ar y diwydiant. Bydd yn gosod esiampl hefyd i wledydd eraill ac yn annog mwy ohonynt i fabwysiadu deddfwriaeth.


Rhan 2 – Asesiad O’r Effaith Reoleiddiol

 

Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith Reoleiddiol ar gynigion y DU, sydd yn Atodiad 1 (bellach mae wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer Rheoliadau cyfatebol Lloegr a, gan mai hon yw’r fersiwn ddiweddaraf (sy’n nodi asesiad y DU), mae’n cael ei defnyddio i ddibenion Rheoliadau Cymru. Cynhaliwyd y dadansoddiad yn yr Asesiad o’r Effaith Reoleiddiol yn Atodiad 1 ar lefel y DU). Mae'r canlynol yn grynodeb o'r effaith debygol yng Nghymru.

 

Yr effaith ar gyrff gorfodi

 

Bydd yr effaith ar y sector cyhoeddus yn golygu baich rheoleiddiol ychwanegol bach iawn iawn yng nghyswllt gorfodi'r gwaharddiad, fel y disgrifiwyd yn yr Offeryn Statudol. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod busnesau yn cydymffurfio â'r gwaharddiad ar weithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig. Rhagwelir y bydd baich adnoddau ychwanegol bach o ran amser ychwanegol ar gyfer swyddogion Awdurdodau Lleol a gweinyddu sancsiynau lle y bydd hynny'n briodol. Mae goblygiadau ariannol y gwaharddiad hwn ar gyfer Cymru yn ymwneud â gorfodaeth yn bennaf. Cyfrifwyd y costau i Gymru o’r Asesiad o’r Effaith ar y DU, a hynny ar sail pro rata. Y gost amcangyfrifedig o orfodi'r gwaharddiad ar gyfer y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru yw £0-£13,824 dros ddeng mlynedd. Mae manylion y costau fel a ganlyn:

 

Crynodeb o’r costau gorfodi (pro-rata ar gyfer Cymru o gostau asesu’r DU)

 

 

Amcangyfrif isel

Yr amcangyfrif gorau

Amcangyfrif uchel

Cost ymgyfarwyddo (blwyddyn 1) – Costau untro

£0

£4,400

£11,000

Cost flynyddol (blynyddoedd 1-3)

£0

£76 (£228 dros 3 blynedd)

£764 (£2,292 dros 3 blynedd)

Cost flynyddol (blynyddoedd 4-10)

£0

£76 (£532 dros 7 blynedd)

£76 (£532 dros 7 blynedd)

 

O gofio camau gweithredu gwirfoddol presennol y diwydiant, disgwylir y bydd y nifer sy'n peidio â chydymffurfio yn isel ac felly bydd y baich ychwanegol ar Awdurdodau Lleol yn fach iawn. Ni fydd y problemau posibl o ran peidio â chydymffurfio yn para'n hir gan y bydd y cyflenwad yn dod i ben wrth i gwmnïau roi'r gorau i weithgynhyrchu stoc nad yw'n cydymffurfio.

 

Yr effaith ar fusnesau

 

Mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i weithgareddau busnesau yn y sector cynhyrchion ymolchi a chynhyrchion cosmetig.

 

Mae'n anodd gwybod i ba raddau y mae busnesau bach yn defnyddio microbelenni, ond nodwyd yn yr ymgysylltiad â Chymdeithas Cynhyrchion Cosmetig, Cynhyrchion Ymolchi a Phersawr y DU nad oes yr un busnes gweithgynhyrchu yng Nghymru yn defnyddio microbelenni yn ei gynhyrchion. O ganlyniad, ni ddisgwylir y bydd Rheoliadau 2018 yn cael unrhyw effaith ar weithgynhyrchwyr yng Nghymru. 

 

O ran busnesau sy'n gwerthu cynhyrchion, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad helaeth, a rhoddwyd cyhoeddusrwydd helaeth i'r cynigion i gyflwyno gwaharddiad ledled y DU. Mae adwerthwyr wedi cael mwy na blwyddyn i addasu i gynigion y gwaharddiad a byddant yn cael canllawiau i'w helpu hefyd ar ôl gweithredu'r gwaharddiad ar 30 Mehefin 2018. Ystyrir y bydd yr effaith ar adwerthwyr yng Nghymru yn fach iawn iawn. Ceir rhagor o fanylion yn adran 4 uchod.

 

Buddion

 

Disgwylir y bydd gwahardd microbelenni yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd morol. Mae organebau morol yn wynebu straen o ffynonellau eraill gan gynnwys mathau eraill o lygredd yn y gorffennol ac asideiddio'r cefnforoedd. Mae'r straen ychwanegol y sgil microbelenni yn cynyddu'r risg gyffredinol sy'n wynebu ecosystemau morol.

 

Mae’r Asesiad o’r Effaith ar y DU yn nodi'r buddion y mae gwahardd microbelenni plastig yn debygol o'u cynnig i fusnesau ac i'r amgylchedd, ond ni ellid meintioli'r buddion hyn ac ni ddarparwyd rhagor o dystiolaeth ychwaith yn ystod ymgynghoriadau Cymru na'r DU. Fodd bynnag, disgwylir y byddant o leiaf mor uchel â chostau cymedrol y mesur.

 

Monitro ac adolygu

 

Adolygir Rheoliadau 2018 yn rheolaidd. Disgrifir y rhwymedigaethau yn rheoliad 14 ac mae’r rhain yn cynnwys (i) adolygu gweithrediad y darpariaethau yn Rhan 3 (Gorfodaeth a Sancsiynau Sifil) a'r Atodlen o fewn tair blynedd i'r dyddiad y daw Rheoliadau  2018 i rym, yn unol â gofynion adran 67 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008. Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi copi o'r adroddiad a fydd yn nodi casgliadau'r adolygiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

5. Ymgynghori

 

20 Rhagfyr 2016 – 28 Chwefror 2017 – ymgynghoriad ledled y DU a gynhaliwyd ar y cyd gan bedair Llywodraeth y DU - 12 wythnos

 

Roedd yr ymgynghoriad ar gael i'r cyhoedd ar wefan: https://consult.defra.gov.uk/marine/microbead-ban-proposals/

 

Cyflwynodd yr ymgynghoriad gynigion i wahardd gweithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion cosmetig a gofal personol sy'n cynnwys microbelenni yn y DU (gan gynnwys ym mhob gweinyddiaeth ddatganoledig). Esboniwyd y byddai'r gwaharddiad yn berthnasol i ficrobelenni solet sy'n llai na 5mm o faint mewn unrhyw fesuriad ac sy'n gynhwysion mewn cynhyrchion cosmetig a gofal personol i'w rinsio i ffwrdd. Pennwyd amserlenni ar gyfer cyflwyno'r gwaharddiad yn y DU a nodwyd y byddai'r gweinyddiaethau datganoledig yn cyflwyno'r gwaharddiad yn unol â'u prosesau deddfwriaethol.

 

Gofynnodd yr ymgynghoriad am sylwadau ynghylch y cynigion, gan gynnwys cwestiynau penodol ynghylch cwmpas; eithriadau posibl; amserlenni; monitro cydymffurfiaeth a gorfodaeth; y costau i'r diwydiant, yr effaith ar fewnforion a'r risgiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â defnyddio deunyddiau eraill yn lle microbelenni plastig. Eglurwyd hefyd fod modd i'r rhai a oedd â diddordeb yn y mater roi sylwadau ar y ddeddfwriaeth yn ystod y cyfnod hysbysu, cyn iddi gael ei gwneud. 

 

Lluniwyd y cynigion ar gyfer gwaharddiad ledled y DU yn dilyn ymgysylltu sylweddol rhwng pedair gweinyddiaeth y DU a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cwmnïau cynhyrchion cosmetig, cyrff anllywodraethol a'r rheiny sydd ag arbenigedd penodol mewn llygredd môr.

 

16 Hydref 2017 tan 8 Ionawr 2018 – ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru – 12 wythnos

 

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus pellach ynghylch manylion ehangach gorfodi a gweithredu'r gwaharddiad yng Nghymru yn benodol. 

 

Roedd yr ymgynghoriad hwn ar gael i'r cyhoedd ar wefan: https://consultations.gov.wales/consultations/banning-manufacture-and-sale-cosmetics-and-personal-care-products-containing-plastic.

 

Gofynnodd yr ymgynghoriad nifer o gwestiynau yn ymwneud â’r cynigion ar gyfer cyfundrefn sancsiynau sifil a fyddai'n cynnwys cymysgedd o hysbysiadau cydymffurfio a chosbau ariannol amrywiadwy i'w gorfodi gan wasanaethau safonau masnach awdurdodau lleol. Yn ogystal, profwyd lefel y cosbau ariannol amrywiadwy.

 

Derbyniodd Llywodraeth Cymru 62 o ymatebion a chefnogaeth helaeth i'r cynigion gorfodaeth a gweithredu. Mae crynodeb o'r ymatebion i'w gael yma: https://consultations.gov.wales/consultations/banning-manufacture-and-sale-cosmetics-and-personal-care-products-containing-plastic

 

29 Ionawr 2018 – Rhoi hysbysiadau i Sefydliad Masnach y Byd ac i'r Undeb Ewropeaidd yn unol â'r Gyfarwyddeb Safonau Technegol

 

Hysbyswyd yr Undeb Ewropeaidd ynghylch yr offeryn statudol drafft yn unol â’r Gyfarwyddeb Safonau Technegol, a hysbyswyd Sefydliad Masnach y Byd hefyd o dan y Cytundeb ynghylch Rhwystrau Technegol i Fasnach.

 

Rhoddodd DEFRA yr hysbysiadau hyn, ynghyd â'r hysbysiad o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd, cyn i’r fersiwn ddrafft o Reoliadau Llywodraeth Cymru 2018 gael ei chwblhau yn derfynol. Yn dilyn y sylwadau a ddaeth i law yn ystod cyfnod hysbysiadau DEFRA, newidiwyd y diffiniad o blastig yn Rheoliadau drafft Llywodraeth Cymru 2018. Mae'r diffiniad diwygiedig wedi'i gynnwys yn Rheoliadau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ledled y DU.

 

Yn Rheoliadau 2018, diffinnir ystyr "plastig" fel sylwedd polymerig synthetig y gellir ei fowldio, ei allwthio neu ei drin yn ffisegol i lunio ffurfiau solet amrywiol, ac sy’n cadw ei siâp gwneuthuredig terfynol wrth gael ei ddefnyddio i’w ddibenion bwriadedig.

 

Ymatebodd y Comisiwn i hysbysiad y Gyfarwyddeb Safonau Technegolgan nodi ei fod wedi gwneud cais i’r Asiantaeth Cemegion Ewropeaidd (ECHA), yn unol ag Erthygl 69(1) o’r Rheoliad REACH, baratoi coflen Atodiad XV o ystyried cyfyngiad posibl yn ymwneud â’r defnydd o bolymerau synthetig nad ydynt yn toddi mewn dŵr, ac sy’n 5 mm neu’n llai o ran maint (h.y. gronynnau microplastig), sy’n cael eu hychwanegu’n fwriadol at unrhyw fath o gynhyrchion. Ychwanegodd yr ECHA y bwriad perthnasol at y Gofrestr o Fwriadau ar 17 Ionawr 2018.

 

Os bydd awdurdodau’r DU yn mynd ati i fabwysiadu’r drafftiau a hysbyswyd, noda’r Comisiwn ei fod yn disgwyl i’r DU ystyried y mesurau cenedlaethol a fabwysiadwyd yn rhai dros dro, ac y dylai ystyried canlyniad terfynol gweithdrefn gyfyngiadau barhaus REACH.

 

Nodwyd y sylwadau hyn, ac fe’u hystyrir pan fydd y canlyniad terfynol ar gael.

 

Mawrth 2018 – gofynion ymgynghori o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008

 

·         Ymgynghorwyd ag Awdurdodau Lleol Cymru yn unol ag adran 60(1)(a) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008 yn rhinwedd eu rôl fel rheoleiddiwr. 

 

Daeth ymatebion i law gan dri Awdurdod Lleol. Roedd yr ymatebion yn cefnogi’r gwaharddiad, gan nodi y byddai’r dull o orfodi yn cael ei lywio’n bennaf gan wybodaeth.

 

·         Yn unol â dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan adran 59(3) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008, ysgrifennodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd at yr Ysgrifennydd Gwladol i ymgynghori ynghylch gwneud Gorchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008.

 

Ni chafwyd yr un ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

 

3 Ebrill 2018 – Gofynion cyhoeddi o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hysbysiadau yn y Western Mail a'r London Gazette, yn unol â gofynion Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i roi gwybod i'r cyhoedd am Reoliadau arfaethedig 2018 ac i wahodd y cyhoedd i roi sylwadau i Weinidogion Cymru.

 

Cyhoeddwyd yr hysbysiad hefyd trwy ddolen ar wefan <http://gov.wales/>, trwy neges e-bost at y rheiny a oedd wedi ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus Cymru a'r DU ac at rwydwaith rhanddeiliaid morol ehangach Llywodraeth Cymru. Roedd gan y cyhoedd fis i roi eu sylwadau i Weinidogion Cymru.

 

Ni chafwyd yr un sylw o ganlyniad i gyhoeddi Rheoliadau drafft 2018.

 

Crynodeb o'r ymgynghoriadau a'r canlyniadau

 

Canlyniad ymgynghoriadau Cymru a'r DU oedd bod cefnogaeth gref iawn i'r gwaharddiad.

 

Disgrifiai ymgynghoriad Cymru y gyfundrefn orfodaeth a'r amserlen weithredu arfaethedig. Yn yr ymgynghoriad, nodwyd ein bwriad i'r gwaharddiad ar weithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion sy'n cynnwys microbelenni ddod i rym ar 30 Mehefin 2018. Awgrymodd yr ymgynghoriad mai adrannau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol fyddai'r rheoleiddiwr mwyaf priodol i orfodi'r gwaharddiad trwy amrywiaeth o sancsiynau sifil a chosbau ariannol amrywiadwy. Roedd 95% o'r ymatebwyr yn cytuno bod y gyfundrefn orfodi yn rhesymol ac yn gymesur. Roedd yr ymatebwyr yn cefnogi lefelau'r cosbau ariannol amrywiadwy yn gyffredinol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylai'r cosbau fod yn uwch.

 

Mae lefel uchaf y cosbau yn gyson â'r cosbau yn Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010. Ystyriwn fod defnyddio cosbau tebyg yn briodol oherwydd y bydd y gwaharddiad ar ficrobelenni yn berthnasol i ystod debyg o fusnesau o feintiau gwahanol. Ystyrir bod swm y gosb amrywiadwy uchaf yn ddigon uchel i atal busnesau bach a chanolig eu maint, ac rydym o'r farn y bydd y cyfuniad o gosb ariannol a chyhoeddi hysbysiadau gorfodi a allai effeithio ar enw da'r busnes yn atal busnesau mwy.


Atodiad 1 – dolen i’r Asesiad o’r Effaith ar y DU a luniwyd ar gyfer ymgynghoriad y DU

 

Cynhaliwyd Astudiaeth o’r Effaith Reoleiddiol ar gynigion y DU. Bellach mae wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer Rheoliadau cyfatebol Lloegr a, gan mai hon yw’r fersiwn ddiweddaraf, mae’n cael ei defnyddio i ddibenion Rheoliadau Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y dadansoddiad yn yr Asesiad o’r Effaith Reoleiddiol yn Atodiad 1 ar lefel y DU.

 

Gellir gweld yr Asesiad o’r Effaith Reoleiddiol trwy ddilyn y ddolen ganlynol:

 

http://www.legislation.gov.uk/uksi/2017/1312/impacts

 

 



[1]http://gov.wales/topics/environmentcountryside/marineandfisheries/marine-fisheries-policy/directives/marine-strategy-framework-directive/?skip=1&lang=cy

[2] https://www.gov.uk/government/publications/marine-strategy-part-one-uk-initial-assessment-and-good-environmental-status

[3]https://www.gov.uk/government/publications/marine-strategy-part-three-uk-programme-of-measures

[4] [4] https://www.ospar.org/documents?v=34422

[5]http://randd.defra.gov.uk/Default.aspx?Menu=Menu&Module=More&Location=None&ProjectID=17683&FromSearch=Y&Publisher=1&SearchText=5416&SortString=ProjectCode&SortOrder=Asc&Paging=10#Description

 

[6]http://ec.europa.eu/environment/marine/good-environmental-status/descriptor-10/pdf/MSFD%20Measures%20to%20Combat%20Marine%20Litter.pdf

[7] https://ec.europa.eu/info/consultations/public-consultation-investigating-options-reducing-releases-environment-microplastics_en

 

[8] https://www.congress.gov/114/plaws/publ114/PLAW-114publ114.pdf

[9] https://www.beatthemicrobead.org/en/industry